Gall Byw Bywyd gynllunio, pennu a gosod addasiadau bach a mawr yn eich cartref er mwyn iddo gyfarfod eich anghenion yn fwy effeithiol a’ch galluogi i fyw yn fwy annibynnol. Rydym wedi ail-gynllunio ystafelloedd ymolchi ar gyfer cleientiaid preswyl a masnachol, gan eu trawsnewid i greu ystafelloedd gwlyb gydag ystod o offer ychwanegol.
Yn dilyn asesiad cyfannol, cynllunir pob ystafell wlyb yn benodol ar gyfer anghenion y cleient. Gallwn ymateb yn sydyn ac yn deall bod angen addasiadau o’r fath ar frys fel arfer, unwaith mae’r penderfyniad i addasu eich cartref ar gyfer ei ddefnyddio i’r dyfodol wedi ei wneud. Gweithiwn yn agos gydag awdurdodau statudol sydd wedi cymeradwyo ein busnes os nad ydych am ddilyn y llwybr grantiau, sydd yn gallu cymryd amser hir. Fel arall, gweithiwn yn agos gyda gwasanaethau o’r fath i sicrhau canlyniad sydyn a llwyddiannus.
Yn dilyn asesiad, naill ai gan ein Therapydd Galwedigaethol neu eraill o fewn y gwasanaethau cymdeithasol neu iechyd, gall rhai o’r addasiadau neu offer arbenigol gallwn eu cymeradwyo gynnwys
- Ystafelloedd Cawod Gwlyb Cyflawn (gallwn drefnu’r holl waith ac yn defnyddio cwmnïau a chyflenwyr dibynadwy yn unig)
- Hambyrddau a Drysau Cawod Lefel Hawdd i’w Defnyddio
- Cawodydd gyda systemau pwmpio gwastraff
- Toiledau lefel uwch a basnau golchi dwylo ergonomig
- Sychwyr corff
- Toiledau cawod
Gallwn gyflenwi a gosod y nwyddau uchod i gyd, a mwy. Os dymunwch ymweliad cartref er mwyn ein galluogi i asesu eich anghenion a darparu dyfynbris am gyflenwi a gosod eich offer ystafell ymolchi, cysylltwch â ni ar post@byw-bywyd.co.uk neu 01286 830 101, os gwelwch yn dda.